Nod y wefan yw darparu adnodd gwybodaeth amhrisadwy i holl drigolion plwyf Llangrannog, sy’n cwmpasu pentrefi Pontgarreg, Blaencelyn, Pentregat a Llangrannog.
Mae Cyngor Cymuned Llangrannog yn gweithio i wella ansawdd bywyd yn ei ardal leol. Mae’n cynrychioli etholwyr fel eu haen lywodraeth ac atebolrwydd democrataidd gyntaf, gan wneud hynny trwy arfer ystod o bwerau a dyletswyddau statudol.
e.e Mae’r Cyngor Cymuned yn ymgynhorai ar gyfer ceisiadau cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, Cyngor Sir Ceredigion. Derbynnir praesept blynyddol er mwyn ariannu gwaith y Cyngor.
Mae’r Cyngor Cymuned yn cynnwys 10 aelod etholedig a’n Cynghorydd Sir lleol. Mae’r Cyngor yn cyflogi clerc rhan amser ar gyfer gwaith gweinyddol. Etholir Cadeirydd y Cyngor yn flynyddol o blith y cynghorwyr presennol. Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor Cymuned ar nos Lun cyntaf y mis (ac eithrio Mis Awst) yn Neuadd Goffa Pontgarreg. Mae dyddiadau, agendau a chofnodion cyfarfodydd i’w gweld ar y wefan.
Mae croeso i holl drigolion ein plwyf fynychu cyfarfodydd yn bersonol neu’n rhithiol, neu gallant gysylltu â’n cynghorwyr i godi pryderon dilys ar eu rhan.
Gallant hefyd godi eu pryderon a/neu anfon ymholiad at y clerc trwy ein tudalen “Cysylltwch â Ni”. Croesawir gohebiaeth yn y Gymraeg neu’n Saesneg.
Trwy gysylltu â ni, rydym yn addo cadw eich manylion yn ddiogel. Ni fydd eich data personol yn cael ei rannu na’i ddefnyddio at ddibenion marchnata a hyrwyddo. Dim ond i gysylltu â chi’n uniongyrchol ynglyn â’ch ymholiad y byddwn yn defnyddio’ch ebost.
Mae Cyngor Cymuned Llangrannog yn gweithio’n galed i sicrhau bod llais y gymuned yn cael ei glywed, ac yr ymdrinir ag unrhyw bryderon sy’n codi yn gyflym ac yn broffesiynol. Mae ein tîm ymroddedig o gynghorwyr yn gwneud eu gorau glas i sicrhau bod materion yn cael eu trin yn deg ar draws y gymuned.
Mae pentre Blaencelyn i’w ganfod i’r Gogledd ddwyrain o bentref Llangrannog. Mae’r afon Fothau ar un ochor ac afon Dewi Fach ar ochor arall y bryn. Mae’r ddwy nant yn cwrdd lawr yn Aberdeuddwr ym mhlwyf Llandisiliogogo cyn ymuno a’r Dewi Fawr ar eu taith i’r môr yn Cwmtydu. Mae’n debyg i Dylan Thomas gyfeirio at yr afon Dewi yn Dan y Wenallt “the singing bubbling gurgling Dewi” wedi iddo ymweld a thafarn y Crown Llwyndafydd.
Enw gwreiddiol ar bentre Blaencelyn oedd ‘Banc Elusendy’. Tybir i’r tŷ elusen fod lle mae Blodfa heddiw, sef islaw’r siop a’r Swyddfa Post presennol. Trigai gwraig o’r enw Catrin Lewis yno a byddai’n gwerthu bara a cadw’r arian mewn bwced o glo cwlwm tu allan i’r drws. Roedd efail ym mhen uchaf tŷ Blaencelyn sydd ar y sgwar, yma ganwyd 8 o blant teulu adnabyddus y Cilie. Yn y pen isaf bu tafarn y “Green Dragon”. Dai ‘Genesis’ oedd y tafarnwr ond nid oedd yn medru darllen. Cadwai Beibl o dan y cownter a cadwai cownt o beth oedd y cwsmeriaid yn ddyledus iddo drwy roi marc ar y llyfr. Bu siop dillad a llestri yma hefyd wedi dyddiau’r dafarn.
Bu efail hefyd yng Nghelyn Parc cyn y siop presennol. Ond wrth i’r tractor ddod yn fwy cyfarwydd yn y byd amaethyddol roedd llai o alw ar waith y gof a’i efail. Agorwyd Eglwys Dewi Sant yn 1895 ond fe’i gaewyd yn 2002. Mae yno fedd i forwr o Norwy wedi i’w gorff gael ei olchi i draeth Llangrannog yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Yn yr un cyfnod golchwyd darn o gorff a claddwyd y gweddillion ym mynwent Dewi Sant. Mae nifer o Gapteiniaid llongau wedi byw yn y pentref a’r ardal cyfagos a hanes hir o amaethu’n lleol gyda nifer o ffermydd erbyn hyn wedi lleihau dros y blynyddoedd diweddar.
Ar cyffiniau Blaencelyn sefir Capel y Wig a ddathlwyd 200 mlynedd yn 2013. Mae’n drist nodi fod 6 capel ac 1 eglwys wedicau yn y 50 mlynedd diwethaf yn ardal a chyffiniau Llangrannog.
Mae pentref Pontgarreg 2filltir o A487 Pentre Gat ac 2filltir o Langrannog ar y B4321.Mae afon Hawen yn llifo trwy'r pentre tua'r mor i Llangrannog. Enwi'r pentref ar ol dwy bont garreg sydd yn eu chroesi. O amgylch mae tiroedd uwch yn disgyn i'r dyffryn a'r llechweddau yn aml wedi eu gorchuddio a choed " allt Tredwr ". Adeiladwyd bythynnod ar lawr ehangach y dyffryn ac yn 1867 agorwyd Ysgol Gynradd yn y pentref ond a gauwyd yn Gorffennaf 2012 pan adeiladwyd a agorwyd ysgol ardal yn Mrynhoffnant. Neuadd Goffa Pontgarreg yw canolfan gymdeithasol y pentref a adeiladwyd yn 1952 ac fe adnewyddwyd gyda cymorthdal y bwrdd Loteri yn 2000, gerllaw mae cae chwarae gymunedol gyda nifer o lle parcio ceir. Bu y priffardd ,llenor a'r awdur nifer o llyfrau i blant enwog T LLew Jones yn byw yn y pentref hyd ei farwolaeth yn mis Ionawr, 2009.
Pentre a dyfodd o gwmpas yr eglwys a sefydlwyd yn oes y seintiau er fod olion Celtiaid cynnar ar Bendinas Lochtyn. Datblygodd y pentref gyda thwf masnach y môr. Adeiladwyd 24 llong ger y traeth a lan at 1914 morwyr oedd y rhan fwyaf o drigolion y pentref. Erbyn heddiw pentre ymwelwyr a mwynhad glan y môr yw’r atyniad mwyaf. Mae’r traeth yn meddu ar y Faner Las, ac yn rhan o Arfordir Treftadaeth Morol. Mae croeso i bawb yn Llangrannog a’r ardal mewn gwaith a hamdden a gobeithio y bydd pawb yn manteisio ar yr amryw gyfleusterau.
PENTRE GȂT NEU GAPEL FFYNNON?
Saif Pentre Gât ar gyffordd ar yr A487 rhwng Plwmp a Brynhoffnant. Yn nhyb llawer nid yw’n lle o bwys wrth iddynt yrru ar hyd y briffordd i gyfeiriad Aberaeron neu Aberystwyth. Fodd bynnag, mae gan y lle hwn hanes bywiog a lliwgar, diolch yn bennaf i’r ddau fan cofiadwy sy’n ganolog yn natblygiad y pentref. Dyna beth sydd yn egluro paham fod gan bentref mor ddi-nod ddau enw!!
Lleolir adeilad Capel Ffynnon, a gaëwyd ym 1982, yn rhannol guddiedig bellach, ar sgwâr y pentref. Mae gwreiddiau addoli yn y cyffiniau hyn yn mynd yn ôl gryn dipyn, gan fod Daniel Rowland, Llangeitho wedi pregethu yn Y Gwndwn fwy nag unwaith. Yn debyg iawn i achosion cynnar yr enwadau bu raid symud o gwmpas gwahanol aelwydydd a rhannu capeli eraill am gyfnodau helaeth. Rhai o’r capeli hynny a gytunodd i rannu addoldy oedd Capel y Gwndwn gerllaw a Chapel Pensarn.
Erbyn 1849 roedd yr aelodaeth o’r farn bod angen addoldy’u hunain arnynt, ond nid gorchwyl hawdd oedd cael gafael ar lain o dir. Yn y pen draw cafwyd safle addas gan John Beynon, Ysw., Castell Newydd Emlyn, ar brydles o 99 o flynyddoedd am £1 y flwyddyn. Un amod a osodwyd ar drosglwyddo’r brydles oedd codi’r capel yn yr arddull Gothig. Ni fu’n llwyddiant ysgubol a bu raid addasu’r cynlluniau ac ailadeiladu rhannau sylweddol o’r addoldy. Law yn llaw â’r Capel codwyd Tŷ Capel hardd ynghyd â thy coets ac ystablau helaeth. Digwyddodd hyn oherwydd lleoliad canolog y pentref.
Nodwedd arall y pentref yw safle’r hen dollborth a geir gerllaw’r maes parcio. Yn ystod Terfysgoedd Beca yn y 1840’au yr oedd pob tollborth ym mha le bynnag dan fygythiad a theimlid y braw a’r dicter yn y bröydd hyn. Yn dilyn y gwrthdystio hyn, cyhoeddwyd nifer o adroddiadau swyddogol yn galw am ddulliau mwy effeithiol o wella heolydd. Ac yn raddol caewyd y tollbyrth a gorfodi cyrff cyhoeddus i fod yn gyfrifol am gynnal a chadw heolydd.
Felly pa enw y dylwn ei arddel bellach wrth gyfeirio at y pentref hwn? Mae llawer yn dibynnu ar brofiadau uniongyrchol yr unigolyn ond ni ellir gwadu pwysigrwydd y ddwy elfen yn hanes y pentref.